
Lansio Cronfa Gymorth Cymdeithas Gymraeg Darogan
23 February 2025
Owain James
Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw rhedeg cymdeithas Gymreig. Mae’n lot o waith i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau, yn enwedig pan mae gennych chi gyllideb fach.
Dyna pam rydym yn falch o lansio Cronfa Gymorth Cymdeithasau Cymreig Darogan! Trwy’r gronfa hon, gall cymdeithasau Cymreig wneud cais am hyd at £300 i helpu eu cymdeithas i dyfu a datblygu.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn neilltuo rhywfaint o’n helw i greu’r gronfa hon er mwyn sicrhau bod cymdeithasau Cymreig a Chymraeg ledled y DU yn weithgar ac yn ffynnu. Rydym wedi creu’r gronfa hon oherwydd credwn fod y cymdeithasau hyn yn ganolfannau cymunedol pwysig sy’n cynrychioli’r gorau o Gymru. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i barhau i weithio’n agos gyda’r cymdeithasau hyn a’u haelodau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gyfleoedd gyrfa yng Nghymru.
Does dim ots os ydych chi’n gymdeithas Gymreig newydd, neu’n gymdeithas sydd wedi bodoli ers degawdau: mae ceisiadau yn agored i gymdeithasau prifysgol Cymreig o bob math.
Gallwch wneud cais i ariannu prynu asedau ac offer, i ariannu gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol, ac unrhyw beth arall y gallwch feddwl amdano a fydd yn helpu’r gymdeithas Gymraeg i ffynnu.
Mae’r broses yn syml iawn. Cwblhewch y ffurflen ac atodwch 500 gair neu lai yn egluro pam eich bod yn credu mai eich cymdeithas Gymreig / Gymraeg chi ddylai dderbyn y gronfa (rydym yn awgrymu paratoi’r atodiad 500 gair cyn dechrau’r cais). Dylech egluro faint o’r gronfa yr ydych yn gwneud cais amdani (dim mwy na £300), sut y byddech yn gwario’r arian hwn, a beth yn eich barn chi fydd yr effaith ar eich cymdeithas. Gallwch uwchlwytho eich ateb mewn unrhyw fformat rydych chi ei eisiau (Word Document / PDF / PowerPoint), ac mae croeso i chi ychwanegu unrhyw beth arall os hoffech chi (e.e. fideo byr).
Rhai awgrymiadau wrth wneud cais:
- Rydym yn chwilio am geisiadau a fydd yn helpu i adeiladu eich cymuned ac sy’n hyrwyddo Cymru’n gadarnhaol. Mae gennym ni ddiddordeb bob amser mewn syniadau creadigol
- Byddwch mor benodol â phosib – cynhwyswch ddyfynbris neu anfoneb os gallwch chi!
- Mae croeso i chi wneud cais am gyllid ar gyfer pryniannau lluosog (cynnwys y gost ar gyfer pob pryniant), ond peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi gwneud cais am y £300 llawn.
Dyma’r ddolen i wneud cais. Dyddiad Cau: 30ain o Fedi 2024.
Sylwer: Disgwylir i’r gronfa dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed os na fyddwch yn llwyddiannus eleni, bydd cyfle arall y flwyddyn nesaf