Tech Talent Cymru
Datblyga dy yrfa ym maes technoleg gyda Tech Talent Cymru
Mae Tech Talent Cymru yma.
Rho dy wybodaeth am ddeallusrwydd artiffisial neu seiberddiogelwch ar waith, ennill profiad gyda busnes yng Nghymru a helpu i lunio’r ffordd y mae’n gweithio.
Mae Tech Talent Cymru yn rhaglen leoliadau newydd i raddedigion gan Darogan a phartneriaid sy’n cysylltu graddedigion talentog â BBaChau yng Nghymru.
Drwy un o ddau lwybr arbenigol, Deallusrwydd Artiffisial neu Seiberddiogelwch, byddi di’n gweithio’n uniongyrchol gyda busnes i ddatrys heriau go iawn, meithrin profiad ymarferol a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
Nid rolau cyffredinol i raddedigion yw’r rhain, lle mae dy wybodaeth dechnegol yn cael ei gadael ar y cyrion. Byddi di’n cael cymorth i ddefnyddio’r hyn rwyt ti eisoes yn ei wybod, dysgu drwy brofiad a helpu busnes yng Nghymru i gymryd camau ystyrlon ymlaen.
Dewisa dy lwybr
Ymgynghorydd Deallusrwydd Artiffisial Graddedig
Helpa fusnes yng Nghymru i ddeall ble y gallai deallusrwydd artiffisial wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Gallet ti adolygu prosesau presennol, nodi tasgau ailadroddus neu dasgau sy’n cymryd llawer o amser, ymchwilio i offer deallusrwydd artiffisial defnyddiol a chefnogi prosiectau bach sy’n gysylltiedig ag anghenion busnes go iawn. Byddi di hefyd yn helpu staff i ddeall sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn hyderus.
Gallai’r llwybr hwn fod yn addas i ti os oes gen ti brofiad o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial drwy dy radd, dy waith, prosiectau personol neu ddysgu annibynnol, a bod gen ti ddiddordeb yn y ffordd y gall technoleg wella’r ffordd y mae sefydliadau’n gweithio.
Gallet ti ennill profiad o:
- Adolygu prosesau busnes a mapio llifoedd gwaith
- Nodi cyfleoedd ymarferol i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial
- Ymchwilio i offer deallusrwydd artiffisial a’u cymharu
- Cefnogi prosiectau bach i fabwysiadu deallusrwydd artiffisial
- Llunio argymhellion clir ar gyfer rheolwyr
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, gan gynnwys preifatrwydd, rheoli ansawdd a goruchwyliaeth ddynol
- Esbonio syniadau technegol mewn iaith syml
Ymgynghorydd Seiberddiogelwch Graddedig
Helpa fusnes yng Nghymru i ddod yn fwy diogel, yn fwy gwydn ac yn fwy parod ar gyfer bygythiadau seiber.
Gallet ti adolygu polisïau ac arferion gwaith presennol, helpu i nodi risgiau cyffredin, cefnogi parodrwydd ar gyfer Cyber Essentials a chreu canllawiau ymarferol i staff. Bydd dy waith yn helpu’r busnes i ddeall ble y gallai fod yn agored i risg a pha gamau realistig y gall eu cymryd nesaf.
Gallai’r llwybr hwn fod yn addas i ti os oes gen ti sylfaen gadarn mewn seiberddiogelwch a dy fod am ei rhoi ar waith mewn amgylchedd busnes go iawn.
Gallet ti ennill profiad o:
- Cynnal adolygiadau sylfaenol o barodrwydd seiber
- Nodi ac esbonio risgiau seiber cyffredin
- Adolygu polisïau, prosesau a chanllawiau i staff
- Cefnogi arferion mwy diogel ar gyfer cyfrifon, dyfeisiau a data
- Creu deunyddiau ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch
- Helpu busnesau i baratoi ar gyfer Cyber Essentials
- Cofnodi risgiau a blaenoriaethu gwelliannau
- Cefnogi prosesau ar gyfer rhoi gwybod am ddigwyddiadau a’u huwchgyfeirio
Beth fyddi di’n ei ennill?
Pa lwybr bynnag y byddi di’n ei ddewis, nod Tech Talent Cymru yw rhoi’r cyfle i ti:
- Cwblhau lleoliad chwe mis i raddedigion gyda BBaCh yng Nghymru
- Gweithio ar heriau busnes go iawn
- Datblygu profiad ymarferol tebyg i waith ymgynghori
- Meithrin dy hyder wrth gyfathrebu â chydweithwyr nad ydynt yn dechnegol
- Dysgu sut mae busnesau llai yn gwneud penderfyniadau ac yn mabwysiadu technoleg newydd
- Cryfhau dy CV drwy ennill profiad mewn maes sy’n tyfu yn yr economi
Yn amodol ar gadarnhad cyllid, nod y rhaglen hefyd yw cynnwys hyfforddiant, mentora a chymorth drwy gydol dy leoliad.
Bydd y rolau wedi’u lleoli yng Nghymru ac yn cynnwys o leiaf 25 awr o waith yr wythnos. Gall y trefniadau gwaith fod yn swyddfa neu’n hybrid, yn dibynnu ar y busnes sy’n cynnal y lleoliad.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn chwilio am raddedigion diweddar sydd eisoes â sylfaen dda mewn deallusrwydd artiffisial neu seiberddiogelwch ac sy’n barod i roi eu gwybodaeth ar waith mewn gweithle go iawn.
Nid oes angen i ti wybod popeth o’r diwrnod cyntaf. Fodd bynnag, dylet ti fod yn chwilfrydig, yn barod i ddysgu ac yn hyderus wrth ofyn cwestiynau. Bydd angen i ti hefyd allu esbonio syniadau technegol yn glir a deall pwysigrwydd defnyddio technoleg yn gyfrifol.
Gallai cefndiroedd gradd perthnasol gynnwys cyfrifiadureg, gwyddor data, seiberddiogelwch, systemau gwybodaeth, fforenseg ddigidol, peirianneg meddalwedd, peirianneg, mathemateg, busnes, marchnata, economeg a phynciau cysylltiedig eraill.
Yr hyn sydd bwysicaf yw dy fod yn gallu dangos gwybodaeth berthnasol, diddordeb ymarferol a’r potensial i wneud cyfraniad gwirioneddol at fusnes yng Nghymru.
Barod i gymryd dy gam nesaf?