Infomatic showing a slogan

Equal Education Partners

Addysg

De Cymru

Equal Education Partners logo

Mae Equal Education Partners yn gwmni rheoli addysg uchel ei barch, gyda chleientiaid yn cynnwys llywodraethau Cymru a’r DU, ysgolion a cholegau ledled Cymru a Lloegr, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae gennym brofiad sylweddol o gefnogi a chyflwyno addysgu yn yr ystafell ddosbarth trwy amryw o raglenni, prosiectau ac ymyriadau.

Mae graddedigion yn chwarae rhan bwysig o fewn llawer o’n prosiectau partner, megis Rhaglen Fentora Seren, yn ogystal â darparu lleoliadau gwaith o safon i ANG a thiwtoriaid law yn llaw â’n rhaglen o gyfleoedd datblygiad proffesiynol.

Anelwn hefyd i gefnogi talent a brwdfrydedd graddedigion i ysgogi newid cadarnhaol a thwf yn fewnol. Rydym yn hyrwyddo ein swyddi newydd i raddedigion, gan sicrhau eu bod yn cael y cyfle i ymuno â’n tîm a ffynnu yma. Rydym yn gwerthfawrogi’r safbwyntiau ffres a’r syniadau arloesol y mae graddedigion yn gallu eu cynnig, gan gredu eu bod yn chwarae rhan hanfodol yn ein llwyddiant parhaus.

Rydym yn dîm amrywiol, blaengar sy’n cynnwys pobl uchelgeisiol yn union fel chi. Dyna pam ein bod yn arwain y ffordd ar gyfer gwell cyflog athrawon, gwell hyfforddiant a gwell dysgu. Dyma hefyd pam y byddwn yn parhau i wthio’r ffiniau i’ch helpu i lwyddo fel unigolion a’n partneriaid yn y sector addysg.

Ein bwriad yw newid bywydau myfyrwyr, athrawon a thiwtoriaid er gwell. Ymdrechwn i wneud hyn trwy gysylltu gweithwyr addysg proffesiynol rhagorol â’r cyfleoedd gorau, trwy ddarparu tiwtora effeithiol a safonol i ddysgwyr difreintiedig a thrwy ffurfio partneriaethau AU a STEM arloesol yn fyd-eang.

Mae gennym angerdd dros addysg, ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hynny, profwch hynny drwy gydweithio â ni.

Equal Education Partners