
Cymharu’r hyn y mae pobl o Gymru yn ei astudio yng Nghymru â’r rhai y tu allan i Gymru: Rhan 2
12 May 2024
Owain James
Mewn blogbost blaenorol, rhannais ddadansoddiad o nifer y bobl o Gymru sy’n astudio pynciau gwyddonol yng Nghymru o gymharu â thu allan i Gymru.
Gan barhau â’r thema hon, gallwch weld y niferoedd ar gyfer pob pwnc arall yn y graffig isod 👇
)%20(4).png)
Mae’n grŵp eang, gyda meysydd pwnc yn cwmpasu ystod o ddisgyblaethau sy’n dod o dan y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol (gall rhannau o ‘Daearyddiaeth, Astudiaethau Daear ac Amgylcheddol’ hefyd ddod o dan y gwyddorau hefyd!). Daw’r data hwn gan UCAS, ac mae’n cynnwys israddedigion yn unig sydd wedi derbyn lleoedd ar ddiwedd y cylch 2022.
Eto, pam mae’r data hwn yn arwyddocaol? Er gwaethaf y ffaith bod mwy o bobl o Gymru yn astudio yng Nghymru nag o’r tu allan i Gymru yn gyffredinol, nid yw hyn yn wir am bob pwnc. Os ydych chi am gyrraedd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio rhai pynciau, mae’r data hwn yn awgrymu lle gallai fod yn lle da i edrych!
Dyma fy sylwadau ar y data:
⚖️ Wrth edrych ar y niferoedd ar gyfer y Gwyddorau, gwelsom fod ‘Meddygaeth a Deintyddiaeth’ a ‘Pynciau sy’n Gysylltiedig â Meddygaeth’ yn fwy poblogaidd i fyfyrwyr o Gymru yng Nghymru o gymharu â thu allan i Gymru, meysydd pwnc sy’n cwmpasu llawer o ‘gyrsiau galwedigaethol’. Rwy’n credu ein bod ni’n gweld rhywbeth tebyg gyda’r data hwn. Mae ‘Y Gyfraith’ ac ‘Addysg ac Addysgu’ yn fwy poblogaidd yng Nghymru nag y tu allan i Gymru, meysydd pwnc sydd eto’n cynnwys cyrsiau sydd fel arfer yn fwy galwedigaethol (h.y. cyfreithwyr ac athrawon). Mae’n awgrymu i mi, pan fo gan raddau’r dewis o lwybr clir i ddiwydiant, mae tuedd i fyfyrwyr o Gymru aros yng Nghymru.
📈 Mae’r gwyddorau cymdeithasol (y mae ‘Busnes a Rheolaeth’ hefyd yn gangen ohonynt) yn fwy poblogaidd gyda myfyrwyr Cymraeg yng Nghymru o gymharu â thu allan i Gymru.
📖 Fodd bynnag, mae meysydd pwnc yn y dyniaethau sy’n cynnwys y pynciau ‘craidd’ sy’n ffurfio rhan fawr o’r cwricwlwm ysgol ar gyfer holl ddysgwyr Cymru (e.e. Hanes, Addysg Grefyddol, Saesneg, Cymraeg, yn ogystal â Daearyddiaeth) yn fwy poblogaidd ar gyfer y myfyrwyr o Gymru y tu allan i Gymru na thu mewn i Gymru. Fy unig awgrym i egluro hyn yw y gallai dysgwyr sy’n rhagori yn y pynciau hyn o oedran ifanc fod yn fwy tueddol o barhau i astudio’r pynciau craidd hyn yn y nifer o brifysgolion Grŵp Russellsy’n perfformio’n dda ac sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru, ac sydd â thraddodiad cryf o addysgu’r pynciau hyn.
🎨 Mae ‘cyfryngau, newyddiaduraeth a chyfathrebu’ a ‘Dylunio, a’r celfyddydau creadigol a pherfformio’ yn fwy poblogaidd gyda myfyrwyr o Gymru y tu allan i Gymru na thu mewn i Gymru! Rhaid cyfaddef fy mod wedi fy synnu braidd gan hyn. Mae gan Gymru brifysgolgion sydd gyda enw da iawn am y celfyddydau, ac mae newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn uchel ei pharch.