Amdanom ni

Darogan Talent yw Hyb Graddedigion Cymru, yr unig blatfform ar gyfer gyrfaoedd i raddedigion yng Nghymru.

Trwy ein platfform digidol, digwyddiadau mewn person a gwasanaethau eraill, rydym yn cysylltu talent raddedig â chyflogwyr yng Nghymru.

Rydym yn gwybod fod Cymru yn le gwych i fyw ac i weithio, ac ein nod yw sicrhau bod pob myfyriwr a graddedig yn y wlad yn gwybod hyn hefyd. Dyma’r pwrpas sy’n ein pweru ni fel sefydliad.

Darganfod Dy Ddyfodol

Ein stori

Pan sylweddolodd dau fyfyriwr ym Mhrifysgol Rhydychen ei bod yn haws dweud na gwneud pan y daw i ddod o hyd i swydd adref yng Nghymru, daethynt o hyd i ateb syml: hyb i raddedigion wedi'i ddylunio i gysylltu pobl ifanc gyda chyflogwyr gwych yma yng Nghymru.

Darllenwch stori lawn Darogan
Test image
druid sticker

Cwestiynau cyffredinol

Yn syml, rydym yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr a graddedigion ddechrau gyrfa yng Nghymru. P’un a ydych chi’n astudio ar hyn o bryd, wedi graddio’n ddiweddar neu’n ystyried dyfodol yng Nghymru — ni waeth o ble rydych chi’n dod — mae ein gwasanaethau wedi eu teilwra ar eich cyfer chi.

Trwy ein hysbysfwrdd swyddi gallwch ddod o hyd i rolau sy’n amrywio o gynlluniau graddedigion a swyddi amser llawn i interniaethau a lleoliadau gwaith.

Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau byw ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ffeiriau gyrfaoedd a chyfleoedd rhwydweithio i ymgeiswyr a chyflogwyr. Cliciwch yma i weld os ydym yn dod i’ch ardal chi yn fuan!

Ydych chi’n chwilio am dalent? Os felly, rydych chi wedi dod i’r lle iawn.

Trwy ein platfform digidol a’n digwyddiadau, gallwch gysylltu â thalent graddedig mewn ffordd nad ydych erioed wedi’i brofi o’r blaen. Yn benodol, rydym yn rhoi pwyslais unigryw ar ehangu’r gronfa dalent i gyflogwyr, drwy gyrraedd y 37% o fyfyrwyr o Gymru sy’n dewis astudio y tu allan i’r wlad.

Rydym hefyd yn darparu cymorth ymgynghori, fel recriwtio a chymorth ymchwil pwrpasol, i ddiwallu eich anghenion penodol.

Anfonwch neges i drafod sut y gallwn eich cefnogi!

Erbyn hyn mae’n debyg y dylem esbonio’r enw! Mae ‘Darogan’ yn olrhain ei hanes yn ôl i chwedloniaeth Cymru, gan gyfeirio at y ‘Mab Darogan’ yn benodol. Proffwydodd yr hen feirdd Cymreig y byddai’r ffigwr Meseianaidd hwn yn dychwelyd un diwrnod ar ôl cyfnod hir o gwsg neu daith o dir tramor, er mwyn achub y genedl.

Ond mae ein safbwynt ni ar hyn ychydig yn wahanol!

Mae gan Darogan, i ni, ystyr sydd wedi’i ail-ddychmygu. Credwn fod angen mwy nag un Mab neu Ferch Darogan arnom i gael effaith gadarnhaol ar Gymru: mae angen miloedd o bobl ifanc i gyfrannu at adeiladu ein heconomi a chreu dyfodol llewyrchus i Gymru.

Cwrdd â'r tîm

Dr Owain James

Dr Owain James

Founder & CEO

South Wales

Jack Taylor

Jack Taylor

Employer & Partnerships Manager

South Wales

Gwenno Roberts

Gwenno Roberts

Events & Marketing Manager

North Wales

Mared Jones

Mared Jones

Marketing Manager

South Wales

Daniel Maclean

Daniel Maclean

Senior Talent Consultant

North Wales