
Cyngor Sir Y Fflint
Awdurdod Leol / Y Sector Gyhoeddus
Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6NB

Fel rhan o’n hymroddiad parhaus i gael gweithle proffesiynol a chymwys, bydd Cyngor Sir y Fflint yn recriwtio nifer o Raddedigion dros y blynyddoedd nesaf.
Mae lleoliad dan hyfforddiant i raddedigion, yn Sir y Fflint, wedi’i anelu at y rhai sydd am fynd i mewn i’r gweithle yn dilyn prifysgol a sydd eisiau ennill cymwysterau proffesiynol. Bydd graddedigion yn ymuno ar radd 2.1 neu uwch ac yn ymgymryd â chymwysterau proffesiynol ar lefel 5/6 yn y proffesiwn perthnasol.
Mae’r math o leoliad i raddedigion rydym yn ei gynnig fel a ganlyn:
- Iechyd yr Amgylchedd
- Bioamrywiaeth
- Arolygu Adeiladu
- Marchnata
- Archwiliad
- Cyllid
- Rheolaeth
- Ynni Carbon Isel
A llawer mwy…
Rydym hefyd yn cefnogi ac yn hyrwyddo lleoliad ar gyfer Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) sy’n gyfrifol am reoli, cynnal a gwella’r rhwydwaith ffyrdd strategol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae’r lleoliadau gwaith y maent yn ei gynnig yn cynnwys.
- Peirianneg Sifil
- Busnes
- Seiberddiogelwch
- Peirianneg fecanyddol a thrydanol