
Venture
Bargen Ddinesig
Caerdydd

Rhaglen Graddedigion Venture
Mae Rhaglen Graddedigion Venture ar genhadaeth i wella lefelau cynhyrchiant, arloesedd a thwf economaidd yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd. Rydym yn gwneud hynny drwy gysylltu graddedigion dawnus â busnesau uchelgeisiol ledled De-ddwyrain Cymru – drwy wasanaeth recriwtio o’r dechrau i’r diwedd o’r radd flaenaf.
Ein nod yw sicrhau bod Rhanbarth Prifddinas Caerdydd yn gyrchfan ddeniadol i raddedigion ddechrau ar eu gyrfaoedd, gan gadw talent o fewn y rhanbarth yn ogystal â galluogi twf busnes – trwy’r manteision hanfodol a ddaw yn sgil gweithlu medrus, sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac sy’n datblygu’n barhaus.
Rydym yn recriwtio ar gyfer ystod eang o gyflogwyr ar draws De-ddwyrain Cymru gyda ffocws penodol ar swyddi o fewn ein sectorau blaenoriaeth: Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Fintech, Seiberddiogelwch, Creadigol, MedTech, ac Ynni a’r Amgylchedd.
Cliciwch yma i weld swyddi diweddaraf Venture!
Bwtcamps Mentro i mewn i Digidol, Data a Seiber
Ydych chi wedi graddio’n ddiweddar ac yn awyddus i blymio i fyd cyffrous technoleg, dadansoddi data, neu seiberddiogelwch?
Edrychwch dim pellach! Mae’r Bŵtcamps ‘Mentro i Mewn’ yn cynnig cyfle i chi roi hwb i’ch taith broffesiynol ac ennill sgiliau hanfodol i gychwyn ar eich gyrfa a manteisio ar y cyfleoedd cynyddol sydd ar gael yn y farchnad swyddi ranbarthol.
Mae tri o’n bootcamps wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer graddedigion prifysgol. Mae ein Mentro i fyd Digidol, Mentro mewn Dadansoddeg Data a Mentro i Seiber-ddiogelwch ar gyfer y rhai sydd wedi graddio o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf.
Wedi’u hariannu ar y cyd gan Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Chronfa Ffyniant Llywodraeth y DU, a’u darparu mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro, bydd y bŵtcamps ymarferol hyn yn rhoi eich gyrfa ar lwybr carlam, gan gyflwyno’r sgiliau sydd eu hangen arnoch a’ch cysylltu â chyflogwyr mewn amrywiaeth o sectorau â cyfleoedd cyflogaeth cynyddol.
Cliciwch yma i weld a gwneud cais am y Bootcamps ‘Mentro i mewn’!