
Y pynciau mwyaf poblogaidd ym Mhrifysgolion Cymru
12 January 2024
Owain James
Ydych chi erioed wedi meddwl beth yw’r meysydd astudio mwyaf poblogaidd ym mhrifysgolion Cymru? Gallwch weld beth yw’r tri maes pwnc mwyaf poblogaidd ar gyfer pob prifysgol yng Nghymru mewn trefn ddisgynnol yn y graff isod. 👇
)%20(1).png)
Daw’r data hwn o flwyddyn academaidd 2020/21, ac mae’n cynnwys pob blwyddyn o astudio a mathau o radd. Nid yw hyn yn gyfyngedig i bobl o Gymru ond mae’n cynnwys yr holl fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru o ble bynnag maen nhw’n dod. Felly mae’r data hwn yn dangos yr hyn y mae pobl o bob rhan o’r byd yn dod i Gymru i’w astudio, a chryfderau cymharol prifysgolion Cymru.
Mae llawer o hyn fel y byddwn wedi disgwyl ac weithiau’n adlewyrchu cryfderau hanesyddol y sefydliadau hyn. Er enghraifft:
– ‘Meddygaeth a deintyddiaeth’ ar gyfer Prifysgol Caerdydd ✅
– ‘Peirianneg a thechnoleg’ ar gyfer Prifysgol Abertawe✅
– ‘Gwyddorau biolegol a chwaraeon’ ar gyfer Prifysgol Metropolitan Caerdydd ✅
– ‘Dylunio, a’r celfyddydau creadigol a pherfformio’ ar gyfer Prifysgol De Cymru ✅
Ond efallai bod rhai syrpreisys yma i mi – er enghraifft, efallai y byddwn i wedi disgwyl i ‘Addysg ac Addysgu’ ymddangos ymhlith y prif feysydd pwnc ar gyfer Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac efallai ddim yn #1 i Brifysgol Aberystwyth. Ni sylweddolais ychwaith fod ‘gwyddorau biolegol a chwaraeon’ mor boblogaidd ym Mhrifysgol Bangor, a ‘Gwyddorau cymdeithasol’ ac ym Mhrifysgol Wrecsam.
A oes unrhyw beth yn sefyll allan i chi? Unrhyw bethau annisgwyl? Ac a ydych chi’n meddwl y dylai gwahanol feysydd fod yn uwch ar gyfer rhai o’r prifysgolion hyn yn y dyfodol?
[Fel pwynt gwybodaeth, nid yw’r data hwn yn cyfeirio at gyrsiau unigol, ond at grwpiau o bynciau cysylltiedig (gan ddefnyddio’r ‘ Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin’, i fod yn dechnegol). Mae gan y dadansoddiad hwn y fantais o roi ymdeimlad ehangach o’r math o bynciau sydd fwyaf poblogaidd – ond gan nad yw’r rhain yn gyrsiau penodol mae’r grwpiau hyn yn eang ac yn ‘gyffredinol’.]