A picture of a globe

Y math mwyaf cyffredin o astudio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru

12 September 2024

Owain James


Ar ba lefel astudio y mae myfyrwyr rhyngwladol yn dod i Gymru?

Fel y mae’r graffig isod yn ei amlygu, mae myfyrwyr rhyngwladol yn cael eu cynrychioli orau ar gyrsiau ôl-raddedig amser llawn yng Nghymru. Tra bod myfyrwyr o’r DU yn y mwyafrif yn gyffredinol (sef 83% o holl fyfyrwyr Cymru), mae myfyrwyr rhyngwladol yn y mwyafrif gyda 60% ar gyrsiau ôl-raddedig amser llawn. Fel y mae’r graff yn ei ddangos, daw’r myfyrwyr rhyngwladol hyn yn bennaf o wledydd y tu allan i Ewrop.

Pam mae astudiaethau ôl-raddedig amser llawn mor boblogaidd gyda myfyrwyr o’r tu allan i’r UE o gymharu â’r categorïau eraill? Dyma rhai awgrymiadau:

  • Yn aml mae manteision ariannol i astudio’n lleol ar gyfer eich gradd gyntaf, yn ffurfiol drwy grantiau a chymorthdaliadau, ac yn anffurfiol drwy gymorth teuluol
  • Oherwydd cost uchel symud i Gymru i astudio (gan gynnwys teithiau hedfan a ffioedd dysgu uchel), daw llawer ar ôl cyfnod o weithio. Maent wedi derbyn eu gradd gyntaf yn eu gwlad wreiddiol, wedi ennill profiad diwydiant, ac yna’n dod pan fyddant mewn sefyllfa ariannol fwy sefydlog
  • Gall oed fod yn ffactor. Mae symud i wlad bell yn debygol o fod yn fwy brawychus i rywun 18 oed na rhywun yn eu hugeiniau neu’n hŷn
  • Ar gyfer gwledydd y tu allan i’r UE fel Awstralia ac UDA nid yw hyn yn broblem, ond mewn llawer o achosion mae Saesneg yn ail iaith i fyfyrwyr rhyngwladol tu allan i’r UE. Trwy ddod yn ddiweddarach yn eu hastudiaethau, mae’r myfyrwyr hyn wedi cael amser i wella eu sgiliau Saesneg i astudio trwy’r cyfrwng hwn

Er bod myfyrwyr rhyngwladol yn ganran is o fyfyrwyr israddedig amser llawn, oherwydd dyma’r categori astudio mwyaf poblogaidd yn gyffredinol, mae myfyrwyr rhyngwladol dal yn lleiafrif sylweddol. Mae mwy na 10% o’r myfyrwyr hyn yn rhyngwladol, sef cyfanswm o 8,980 o fyfyrwyr, pan gyfunir myfyrwyr yr UE a’r tu allan i’r UE.

Yn ddiddorol, mae cyfraddau’r myfyrwyr rhyngwladol sy’n ymgymryd ag astudiaethau rhan-amser (ar lefel israddedig ac ôl-raddedig) yn llawer is. Mae astudio’n rhan-amser yn gysylltiedig gyda weithio yn rhan-amser a / neu gymorth teulu – sy’n fwy tebygol o fod ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol yn eu gwlad wreiddiol.

Fodd bynnag, mae rhai arlliwiau i’w nodi. Mae canran myfyrwyr yr UE ar draws y gwahanol gategorïau astudio yn parhau i fod yn gymharol gyson, sef tua 2-3%.

Rwy’n meddwl bod y data hwn yn awgrymu cwpl o bethau y dylai cyflogwyr eu hystyried o ran myfyrwyr rhyngwladol a’u rhinweddau:

  • Yn aml mae ganddyn nhw sawl gradd – maen nhw’n grŵp addysgedig iawn!
  • Maen nhw’n aml yn dod i astudio yn y DU ar ôl cael profiad mewndiwydiant gartref. O fy mhrofiad o ddidoli ymgeiswyr, mae’n drawiadol faint o brofiad diwydiant y gall myfyrwyr rhyngwladol ei gael o’i gymharu â myfyrwyr o’r DU sy’n gwneud cais am yr un rôl graddedig lefel mynediad

Rwyf hefyd yn meddwl bod dod i’r DU i astudio o wlad arall, ar unrhyw lefel, yn awgrymu lefel uchel o wytnwch – i ddysgu iaith, addasu i ddiwylliant, a symud i ffwrdd oddi wrth ffrindiau a theulu.

[Data gan HESA]