
Dewch i gwrdd â’n Rheolwr Marchnata newydd, Mared
12 March 2025
Mared Jones
1. Dywedwch ychydig amdanoch chi a’ch profiad.
Helo! Fy enw i yw Mared, a fi ‘di Rheolwr Marchnata newydd sbon Darogan. Dwi’n wreiddiol o Ddinbych yng ngogledd Cymru, ond symudais i Gaerdydd i astudio Llenyddiaeth Saesneg yn 2012 ac anghofio’n llwyr symud bod angen symud yn ôl.
Ges i fy nghyflwyno i fyd marchnata a chyfathrebu pan ymgymerais ag interniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd fel cynorthwyydd cyfathrebu yn yr adran cyn-fyfyrwyr. Sgwennu tweets am fywoliaeth? Ia plîs! Wedi cwblhau fy interniaeth a fy MA mewn Ysgrifennu Creadigol, cefais fy lansio fewn i yrfa greadigol gyda chwmnïau fel Shed Marketing, Llais Cymru a’r Urdd – a rŵan Darogan!
2. Beth wnaeth eich ysbrydoli i ymuno â Darogan?
Rhan fawr o ddyhead Darogan yw ceisio gwrthdroi’r ‘brain drain’ yng Nghymru, ble mae graddedigion ifanc yn gadael y wlad. Mi wnes i fy hun bron iawn adael Cymru, hefyd, gan fy mod i dan yr argraff bod angen symud i Lundain os oeddwn i am gael swydd cŵl a chreadigol. Wel, yn amlwg iawn cefais fy mhrofi’n anghywir, a dwi bellach yn hynod o falch i gefnogi nod Darogan o arddangos potensial Cymru i gyflogwyr a graddedigion, boed yn wreiddiol o Gymru, wedi astudio yma neu erioed wedi hyd yn oed clywed am y wlad!
Cefais hefyd fy nenu’n arbennig at y rôl gan ei bod hi’n fy nghaniatáu i nid yn unig ddefnyddio fy Nghymraeg, ond i ymfalchio ynddi. Amdani, Darogan!
3. Beth yw eich hobïau a’ch diddordebau?
Fel unrhyw Gymraes, dwi wrth fy modd yn canu a pherfformio! Ar ôl cael fy magu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, cefais fy nghyflwyno i ganu a cappella pan ymunais â Chymdeithas A Cappella Prifysgol Caerdydd, a dwi bellach yn rhan o The Inner Voices – croeso mawr i chi wrando arnom ni ar Spotify neu brynu tocyn i un o’n sioeau yn y gwanwyn!
Pan dwi ddim yn gweithio neu’n canu (sydd ddim yn digwydd yn aml iawn), fedrwch chi ddod o hyd i mi’n darllen ar y soffa tra mae fy nghathod, Kenneth a Mavis, yn pendwmpian (neu’n ffraeo) ar fy nglin. Dwi hefyd yn mwynhau bwyta bwydydd Asiaidd, pori’r we am nwyddau Pokemon, a threulio lot gormod o amser (a gwario lot gormod o bres!) yn gwylio dramâu a sioeau gerdd.
4. Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf gyda’ch rôl newydd gyda Darogan?
Fel Rheolwr Marchnata cyntaf erioed Darogan, dwi’n edrych ymlaen yn fawr i barhau gyda gwaith gwych Owain, Gwenno a Jack o siapio’r cwmni fewn i wasanaeth a brand cofiadwy sy’n wirioneddol ddefnyddiol i fyfyrwyr a chyflogwyr, tu fewn a thu hwnt i Gymru.
(Hefyd, mae brandio newydd sbon ar ei ffordd – mwy ar hynny i ddod!)