Dewch i gwrdd â’n Uwch Ymgynghorydd Talent newydd, Daniel! – Darogan
Picture of Daniel

Dewch i gwrdd â’n Uwch Ymgynghorydd Talent newydd, Daniel!

15 March 2025

Mared Jones


1. Dyweda ychydig amdano dy hun a dy brofiad.

Daniel ydw i a dwi’n Ymgynghorwr Recriwtio Arbenigol o Ruthun, tref farchnad bywiog yng ngogledd Cymru. Ar ôl graddio o Brifysgol John Moores Lerpwl gyda gradd mewn Hyfforddi Chwaraeon yn 2017, dwi wedi ennill profiad eang mewn trawstoriad o rolau sy’n ymwneud â chwsmeriaid. Dros y blynyddoedd, dwi wedi darganfod fy ngwir frwdfrydedd ar gyfer recriwtio.

Roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau dilyn gyrfa lle gallwn gyfuno fy sgiliau cyfathrebu cryf a fy niddordeb mewn helpu eraill. Dwi’n angerddol am greu perthnasoedd parhaol gydag ymgeiswyr a chleientiaid ac mae’r cyfle i gael effaith mor uniongyrchol ar yrfa unigolyn neu ar dyfiant cwmni yn werth chweil dros ben. Mae’r cysylltiadau personol a’r llwyddiannau dwi’n eu gweld yn gwneud pob dydd yn un boddhaus.

2. Beth wnaeth dy ysbrydoli i ymuno â Darogan?

Cefais i ysbrydoli i ymuno â Darogan ar ôl derbyn profiad uniongyrchol o’r diffyg mewn hysbysebu ar gyfer swyddi gwych yng Nghymru. Mae sawl cyflogwr yng Nghymru dan anfantais oherwydd mae hysbysebion swyddi yn aml yn dod o ddinasoedd mwy fel Caer, Lerpwl, Manceinion a Llundain. Mae hyn yn gadael cwmnïau Cymru gyda chronfa lai o ymgeiswyr ac, yn bwysicach fyth, maent mewn perygl o golli allan ar ddenu talent leol anhygoel.

Mae’n hollbwysig helpu uwcholeuo busnesau Cymreig a chyfrannu at economi’r wlad drwy sicrhau bod cyfleoedd lleol yn cael eu hyrwyddo’n effeithiol ac yn cyrraedd y bobl iawn. Mae nod Darogan i wireddu potensial Cymru yn un sy’n agos iawn at fy nghalon, a dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r ymdrech hon

3. Beth yw dy hobïau a dy ddiddordebau?

Pan dwi ddim yn gweithio, rydych yn fwyaf tebygol o ddod o hyd i mi’n crwydro’r awyr agored, yn enwedig yn enwedig ymhlith gogoniant tirwedd gogledd Cymru. Dwi hefyd yn mwynhau gwylio ffilmiau, mynd am dro, a dod o hyd i lefydd newydd i ymlacio.

Dwi hefyd yn ffan enfawr o chwaraeon, yn enwedig pêl-droed. Wna i byth wrthod y cyfle i wylio Manchested United gyda fy ffrindiau (paid beirniadu!). Ar ddyddiau mwy tawel, dwi’n mwynhau darllen, gwrando ar bodlediadau, ac arbrofi gyda ryseitiau newydd yn y gegin.

4.  Beth wyt ti’n edrych ymlaen ato fwyaf gyda dy rôl newydd gyda Darogan?

Fel Uwch Ymghynghorydd Talent newydd Darogan, dwi’n edrych ymlaen at barhau i feithrin perthnasoedd cadarn gyda chleientiaid ac ymgeiswyr yn y digwyddiadau rydym yn eu cynnal ledled y wlad. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at ddod o hyd i unigolion proffesiynol a dawnus a’u cyflwyno i’w rôl nesaf yma yng Nghymru.