We
employers across Wales with degree-educated talent
Croeso i Darogan: Hwb Graddedigion Cymru!
Rydym yn cysylltu cyflogwyr ledled Cymru â graddedigion, ac yn arbenigo mewn cyrraedd y 37% o fyfyrwyr o Gymru sy’n astudio y tu allan i Gymru, i ehangu eich cronfa dalent a dod â'r graddedigion gorau i’ch sefydliad.

Ein gwasanaethau
- Postiwch eich swyddi gwag ar ein bwrdd swyddi a chysylltwch â miloedd o fyfyrwyr a graddedigion sy’n chwilio am gyfleoedd yng Nghymru.
- Hysbysebwch amrywiaeth o rolau – interniaethau, lleoliadau, swyddi i raddedigion, a chynlluniau.
- Ehangwch eich cyrhaeddiad – caiff rolau eu rhannu ar fyrddau swyddi prifysgolion Cymru a gyda’n rhwydwaith unigryw, sy’n cynnwys talent o Gymru sy’n astudio y tu allan i Gymru.
- Hybu eich gwelededd – gyda thanysgrifiad, gall eich sefydliad elwa o broffil pwrpasol ar wefan Darogan a hyrwyddiad drwy gydol y flwyddyn.
- Ymgysylltwch â thalent y dyfodol drwy ein digwyddiadau arloesol wyneb yn wyneb, ffeiriau gyrfaoedd, a gweithgareddau rhwydweithio i fyfyrwyr.
- Cyfarfod â graddedigion yn uniongyrchol – rydym yn cynnal digwyddiadau gyrfaoedd prifysgol ledled Cymru i gysylltu cyflogwyr â thalent leol.
- Ehangu y tu hwnt i Gymru – drwy bartneriaethau â chymdeithasau Cymraeg ledled y DU, rydym yn cyrraedd myfyrwyr o Gymru sy’n astudio mewn mannau eraill.
- Manteisiwch i’r eithaf ar eich presenoldeb – rydym yn mynychu ffeiriau gyrfaoedd ym mhob prifysgol yng Nghymru, ac mae ein tanysgrifwyr yn elwa o hyrwyddiad ychwanegol yn y digwyddiadau hyn.
- Creu digwyddiadau pwrpasol – angen help i drefnu eich digwyddiad graddedigion eich hun, gweithdy diwydiant-benodol, neu weminar? Mae gan ein tîm brofiad helaeth o ddylunio a chyflwyno digwyddiadau llwyddiannus am werth gwych.
- Angen help i ddenu a llogi’r graddedigion cywir? Rydym yn cynnig cymorth wedi’i deilwra ym meysydd:
- Ymchwil a Mewnwelediadau – deall eich heriau sgiliau gydag arbenigedd mewn dulliau ymchwil.
- Strategaeth Recriwtio a Dylunio Rhaglenni – o fireinio prosesau llogi i ddatblygu cynlluniau graddedigion ac interniaethau newydd.
- Allanoligo Prosesau Recriwtio (RPO) – gallwn reoli’r gwaith o recriwtio a llunio rhestrau byrion ar eich rhan.
- Gwasanaethau Ymsefydlu a Chyflogres – symleiddiwch y broses llogi drwy adael i ni ymsefydlu a thalu lleoliadau tymor byr neu interniaid.
Pam hysbysebu gyda Darogan?
Cyrhaeddiad uniongyrchol: Defnyddir ein platfform gan filoedd o fyfyrwyr a graddedigion sydd wrthi’n chwilio am eu cyfle nesaf yng Nghymru, gan sicrhau bod y bobl gywir yn gweld eich swyddi.
Ehangu’r gronfa dalent: Nid dim ond eich cysylltu â myfyrwyr yng Nghymru y mae Darogan – rydym yn cyrraedd myfyrwyr a graddedigion sydd wedi gadael Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n astudio mewn prifysgolion haen uchaf, i roi mynediad i chi at ystod ehangach fyth o dalent.
Pwrpas Cymdeithasol: Ymunwch â chymuned o gyflogwyr o’r un anian sydd wedi ymrwymo i gadw graddedigion disgleiriaf Cymru a chefnogi Cymru fwy llewyrchus.

P'un a ydych am ddysgu mwy am Darogan, postio swydd, gofyn am lyfryn, neu drafod eich heriau llogi, rydym yma i helpu!
Barod i bostio eich cyfle? Yn syml, cyflwynwch eich rhestr swyddi a dechreuwch ddenu'r dalent graddedigion gorau yng Nghymru.