Case study for JCP Solicitors

31 July 2026

Mared Jones


Pan ddaeth Emma James, Cynghorydd Pobl a Diwylliant JCP Solicitors, i GradCon Cymru y llynedd, nid dim ond dosbarthu taflenni oedd ei bwriad. Roedd hi yno i gael sgyrsiau ystyrlon â’r myfyrwyr a’r graddedigion a ymwelodd â stondin y cwmni.

Ers hynny, mae un o’r sgyrsiau hynny wedi arwain at aelod newydd yn ymuno â thîm JCP.

“Mae GradCon yn gyfle gwych i gwrdd â chymaint o raddedigion talentog ac uchelgeisiol o bob rhan o Dde Cymru,” meddai Emma. “Mae’n galonogol siarad ag unigolion sydd newydd ddechrau ystyried eu hopsiynau gyrfa ac sy’n awyddus i ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth y maent wedi’u hennill drwy eu hastudiaethau.

“Yn JCP Solicitors, rydym yn angerddol am gefnogi talent ar ddechrau eu gyrfaoedd a helpu graddedigion i adeiladu gyrfaoedd gwerth chweil a hirdymor. Mae digwyddiadau fel GradCon yn chwarae rhan bwysig wrth gysylltu graddedigion â chyflogwyr a dangos yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael iddynt.”

Y graddedig hwnnw oedd Alex Thomas, sydd bellach yn Gynorthwyydd Cyfreithiol Graddedig yn JCP Solicitors ac ar y llwybr tuag at gymhwyso’n gyfreithiwr.

I Alex, cafodd y cyfle i siarad yn uniongyrchol â’r cwmni lawer mwy o argraff na darllen amdano ar-lein yn unig.

“Fe wnaeth GradCon fy helpu i ddeall beth roeddwn i ei eisiau o fy ngyrfa a pha fath o ddiwylliant gweithle fyddai’n gweddu orau i mi,” esboniodd Alex. “Cafodd y cyfle i siarad yn uniongyrchol â phobl o’r cwmni – fe wnes i siarad ag Emma, a chwaraeodd ran allweddol yn fy helpu i ymuno â JCP – lawer mwy o effaith na dim ond ymchwilio ar-lein.

“Fe wnaeth y sgwrs honno helpu fy nghais i sefyll allan, gan arwain yn y pen draw ataf yn dechrau yn y tîm Ymgysylltu â Chleientiaid ac yna’n sicrhau fy swydd fel Cynorthwyydd Cyfreithiol Graddedig, lle rwyf bellach ar y llwybr tuag at gymhwyso’n gyfreithiwr.”

Nid JCP Solicitors yw’r unig gyflogwr sydd wedi recriwtio drwy GradCon Cymru.

Cafodd Enterprise Mobility lwyddiant drwy’r digwyddiad hefyd, gan benodi rhywun y gwnaethant gysylltu ag ef am y tro cyntaf yn GradCon Cymru, tra bod sawl ymgeisydd arall wedi symud ymlaen i’r cyfweliad terfynol.

Gyda’i gilydd, mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut y gall sgyrsiau ystyrlon yn GradCon Cymru arwain at gyfleoedd gyrfa go iawn ar draws amrywiaeth eang o sectorau.

Pam mae hyn yn bwysig i gyflogwyr

Mae profiad Alex yn dangos rhywbeth na all hysbyseb swydd ar ei phen ei hun ei gyflawni bob amser.

Mae cyfarfod wyneb yn wyneb yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ddeall diwylliant sefydliad, gofyn cwestiynau a dychmygu eu hunain yn rhan o’i dîm. Ar yr un pryd, mae’n galluogi cyflogwyr i adnabod rhinweddau, uchelgais a photensial na fyddant o reidrwydd yn dod ar draws yn llawn ar CV.

I JCP Solicitors, helpodd un sgwrs wrth stondin arddangos Alex i feithrin cysylltiad ystyrlon â’r cwmni cyn cyflwyno ei gais. Helpodd hefyd dîm JCP i adnabod ymgeisydd a allai ddod yn aelod gwerthfawr o’i weithlu yn y dyfodol.

Bydd GradCon Cymru yn dychwelyd i DEPOT Caerdydd ar 8 a 9 Medi 2026 mewn fformat dau ddiwrnod estynedig. Bydd dydd Mawrth yn agored i fyfyrwyr a graddedigion o bob disgyblaeth academaidd, tra bydd dydd Mercher yn canolbwyntio’n benodol ar bynciau a gyrfaoedd STEM.

Dim ond nifer cyfyngedig o stondinau arddangos a phecynnau nawdd sector sydd ar ôl.

Gall cyflogwyr sydd am gryfhau eu llif talent graddedig gysylltu ag Owain James drwy [email protected] i gael rhagor o wybodaeth, neu drwy ymweld â gwefan GradCon Cymru ar gyfer eleni.

Pam mae hyn yn bwysig i ymgeiswyr

Mae stori Alex hefyd yn atgof gwerthfawr i fyfyrwyr a graddedigion: gall troi lan a dechrau sgwrs wneud gwahaniaeth go iawn.

Mae’r cyflogwyr sy’n arddangos yn GradCon Cymru yno oherwydd eu bod eisiau cwrdd â darpar ymgeiswyr. Gall gofyn cwestiynau, trafod dy uchelgeisiau a dangos pwy wyt ti y tu hwnt i’r CV dy helpu i wneud argraff barhaol.

Fe wnaeth y math hwnnw o sgwrs wyneb yn wyneb helpu Alex i sefyll allan a dechrau ei yrfa gyda JCP Solicitors. Gallai dy sgwrs di yn GradCon Cymru agor y drws at gyfle nad oeddet ti wedi’i ystyried o’r blaen.

Cynhelir GradCon Cymru yn DEPOT Caerdydd ddydd Mawrth 8 a dydd Mercher 9 Medi 2026.

Cofrestra i ddod, a bydda’n barod i ddechrau sgwrs.