GradCon Cymru 2025

Gan gyflwyno GradCon Cymru

28 May 2025

Gwenno Roberts


Ar ddydd Mawrth, 9 Medi 2025, bydd Darogan yn cynnal y GradCon Cymru cyntaf erioed – digwyddiad gyrfaoedd i raddedigion ar raddfa fawr yn DEPOT, Caerdydd – gan ddod ag oddeutu 50 o gyflogwyr ynghyd â channoedd o fyfyrwyr a graddedigion talentog o rai o brifysgolion blaenllaw’r DU.

Mae hwn yn gyfle i gyflogwyr arddangos eu cyfleoedd i dalent newydd disgleiriaf Cymru a ymuno â rhwydwaith o gyflogwyr sy’n ymrwymedig i gryfhau’r gweithlu graddedigion yng Nghymru. Rydym yn cynnig lleoedd arddangos a nawdd ar sail ‘cyntaf i’r felin’, gan gynnwy nifer cyfyngedig o docynnau cynharach ‘early bird’ ar gyfradd ostyngedig (mae 25% eisoes wedi’u gwerthu – felly peidiwch ag oedi i sicrhau eich lle!)


GradCon Cymru

Stondin Arddangos (£295 cynnig cynnar – pris llawn £395) – yn cynnwys 1x stondin, 2x tocyn bwyd stryd, 1x lle parcio, ac 1x hysbyseb swydd am ddim ar ein bwrdd swyddi.

Prif Noddwr (£3,000) – yn cynnwys stondin arddangos, amlygrwydd premiwm, cyfleoedd siarad, a mwy (wedi’i gyfyngu i 3 lle – 2 ar ôl).

Noddwr Sector (£750) – yn cynnwys stondin arddangos, a’r cyfle i gyflwyno’ch hun fel arweinydd yn eich maes trwy hyrwyddo targedig (1 noddwr yn unig fesul sector – 5 eisoes wedi’u gwerthu (Sector Cyhoeddus / Lled-ddargludyddion / Addysg / Trafnidiaeth / Manwerthu = gwerthwyd) gyda nifer cyfyngedig o sectorau ar ôl).


Pam mynychu’r digwyddiad hwn?

Cysylltu â’r dalent orau – Cyfarfod a rhyngweithio â channoedd o fyfyrwyr a graddedigion o safon uchel o sawl prifysgol ledled y DU.

Hyrwyddo eich brand – Arddangos eich cyfleoedd a sefydlu eich presenoldeb ymhlith rhai o gyflogwyr mwyaf blaenllaw Cymru.

Ehangu eich cronfa dalent – Cyrraedd graddedigion lleol yn ogystal â’r 37% o fyfyrwyr Cymreig sy’n astudio y tu allan i Gymru, ac sy’n awyddus i ddychwelyd adref ar gyfer cyfleoedd gyrfa.

Bod yn rhan o’r symudiad – Ymuno â chyflogwyr tebyg eu meddylfryd i lunio gweithlu’r dyfodol a meithrin economi Gymreig gryfach.


Os oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau eich lle fel arddangoswr neu noddi’r digwyddiad hwn, llenwch y ffurflen mynegi diddordeb hon ac fe fydd un o’n tîm yn cysylltu â chi.

Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i ddathlu’r gorau o Gymru gyda’n gilydd!